top of page

Tyfu ym Mhowys

       Grow in Powys

Prosiect Band Eang Cymuned Crai

Gwella Gwasanaeth Band Eang Crai 

Ers i ni gyflwyno gwasanaeth ffeibr cyflym iawn mae’r cyswllt wedi bod yn well o lawer i rai ym Mhowys ond bu’n rhaid meddwl am atebion eraill mewn ardaloedd mwy gwledig.

 

Roedd cymuned leol Crai ger Bannau Brycheiniog yn cael trafferth debyg i hyn. Gyda chymorth Cyngor Sir Powys ac Allwedd Band Eang Cymru gan Lywodraeth Cymru, roedd trigolion yn mynd ati ar eu liwt eu hunain i ddatblygu ffyrdd o gael band eang addas yn eu cymuned. Dyma hanes eu taith ...

 

Dechreuwyd y prosiect ym mis Mehefin 2016 gan David Ross a Peter Barrow o bentref Crai gyda chefnogaeth lawn Pwyllgor Rheoli Neuadd Crai. Eu nod oedd datrys cyflymder gwael band eang yn y gymuned leol. Cynhalion nhw drafodaethau gyda Thîm Adfywio Cyngor Sir Powys i weld a oedd modd dod o hyd i Ddarparwr Gwasanaethau Rhyngrwyd addas i ariannu a chefnogi’r prosiect.

 

Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd Cymunedol Crai’n gynnar ym mis Rhagfyr i weld faint o gefnogaeth oedd yn y gymuned leol i’r prosiect. Roedd y cyfarfod yn llwyddiant ysgubol gyda phobl o dros 60 o dai, ffermydd a busnesau’n dweud eu bod am ymuno â’r cynllun.

 

Derbyniwyd ceisiadau manwl gan ddau ddarparwr oedd am gynnig gwasanaeth i’r gymuned. Galwodd Pwyllgor Rheoli Neuadd Crai gyfarfod arbennig ym mis Mawrth 2017 i drafod rhinweddau’r ddau gynnig. Pleidleisiodd aelodau’n unfrydol o blaid penodi DyfedIT fel y darparwr gwasanaethau rhyngrwyd yr oedd y gymuned yn dymuno ei ddefnyddio.

Mae Dyfed IT yn arbenigo mewn cysylltiadau rhyngrwyd mewn ardaloedd gwledig a’u canolfan yn Sir Gaerfyrddin. Enw arall y cwmni yw Dyfed Superfast  (cangen band eang gwledig DyfedIT). Mae eu rhwydwaith band eang cyflym diwifr yn cynnig cyflymder cysylltu hyd at 30Mbps, gyda data diderfyn i oddeutu 70 o danysgrifwyr preswyl a busnes.

Cynhaliodd DyfedIT gyfarfod cyhoeddus yn y neuadd i rannu gwybodaeth am eu gwasanaeth a’u cyfarpar. Roedd hwn yn gyfle i gwblhau ceisiadau am grantiau Allwedd Band Eang Cymru gan Lywodraeth Cymru i dalu am gostau gosod a rhoi’r gwasanaeth ar waith. Proseswyd hyd at 70 cais ar gyfer un cynnig cymunedol ar y cyd. Mae gan y prosiect y gallu i ymestyn mwy fyth bellach ac mae disgwyl mwy o geisiadau wrth i’r rhwydwaith dyfu.

Yn dilyn cais cynllunio llwyddiannus a wnaed i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, rhoddwyd mast ar fryn ym Mrychgoed. Yn ogystal, gosodwyd gorsafoedd trosi yn Neuadd y Pentref Waun Newydd ac mewn lleoedd eraill i gysylltu pob cwr o’r gymuned. Mae gan danysgrifwyr dderbynnydd dysgl bach sy’n cael ei gosod am ddim er mwyn cysylltu â’r rhyngrwyd.

Mae’r prosiect wedi bod yn llwyddiant mawr gan ddod â gwasanaeth rhyngrwyd cyflym trwy’r gymuned a rhoddodd Newyddion BBC Wales sylw i lansiad y prosiect.

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Tyfu ym Mhowys sy’n cynnwys cymorth a chyngor ar sut i gael Band Eang Cyflym Iawn gan Lywodraeth Cymru.

Am help a chyngor, cysylltwch â Swyddog Band Eang Cymunedol y cyngor, Reece Simmons dros e-bost:

reece.simmons@powys.gov.uk neu  01597 827278

bottom of page