Darparu adfywiad yng
Nghalon Werdd Cymru
Mae’r Tîm Cyllid o fewn y Gwasanaethau Adfywio yn cynnig gwasanaeth datblygu prosiectau. Mae’n cynnwys ymchwilio i ac adnabod cyfleoedd sy’n addas i wneud cais am gyllid, a chefnogi ceisiadau am gymorth ariannol ar gyfer prosiectau.
Mae gennym fynediad at adnoddau pwrpasol megis GRANTfinder i’ch helpu dod o hyd i ffynonellau cyllid potensial.
Mae llawer o ffynonellau cyllid ar gael.
Tyfu ym Mhowys
Grow in Powys
I gael cymorth a chyngor cysylltwch â'r Tîm Cyllid.
Ebost: funding@powys.gov.uk.
Bwletin Cyfleoedd Cyllido
Lawrlwythwch y rhifyn diweddaraf Cyfleoedd Cyllido - Rhifyn 57 Gorffennaf 2020.
Mae'n cynnwys amrywiaeth o ffrydiau cyllido sydd ar gael i wahanol fudiadau a chymunedau ar draws Powys.
Grantiau Cymunedol
> Rhaglen Grantiau Cymunedol Cyngor Sir Powys
Prif ddiben y rhaglen yw darparu cyllid cyfalaf i gynorthwyo datblygiad cymdeithasol a chymunedol yng nghanol y gymuned. Rhaid i grwpiau a sefydliadau gwirfoddol ddangos eu bod yn gynaliadwy a bod ganddynt gyfansoddiad priodol.
Wedi’i ariannu trwy’r Cynllun Datblygu Gwledig (CDG) i Gymru fel rhan o Gronfa Amaethyddol Ewrop a Llywodraeth Cymru ar gyfer Datblygu Gwledig, mae Arwain yn gweithio gyda Chyngor Sir Powys i gyflwyno rhaglen LEADER 2014-2020 ym Mhowys.
Mae LEADER yn defnyddio gwybodaeth leol i hyrwyddo cyflwyno datblygiad gwledig “ar lawr gwlad” dan arwain y gymuned. Mae wedi bod yn llwyddiannus wrth sicrhau £3,750,000 ar gyfer prosiectau i gymunedau.
> Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
Dyfarnwn grantiau rhwng £300 a thros £500,000 i fudiadau sy'n amrywio o grwpiau bach lleol i brif elusennau cenedlaethol.
> Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedla
Rydym yn cynnig amrywiaeth o raglenni grant gwahanol gyda grantiau o £3,000 i dros £5miliwn. Wrth asesu ceisiadau, rydym yn ystyried yr ystod eang o ganlyniadau ar gyfer treftadaeth, pobl a chymunedau y bydd prosiectau yn cyflawni.
Cyngor Celfyddau Cymru yw’r corf sy’n datblygu a chyllido’r celfyddydau yng nghymru. Ein gweledigaeth yw Cymru greadigol lle mae’r celfyddydau yn ganolog i fywyd a lles y genedl.
O chwaraeon ar lawr gwlad i Stadiwm Principality, rydym ni eisiau datblygu cenedl o bencampwyr. Mae angen grant gan Chwaraeon Cymru i helpu i wella chwaraeon yn eich cymuned.
Erasmus+ yw rhaglen yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer addysg, hyfforddiant, ieuenctid a chwaraeon. Mae’n agored i sefydliadau addysg, hyfforddi, ieuenctid a chwaraeon ar draws pob sector o’r maes dysgu gydol oes, gan gynnwys addysg ysgol, addysg uwch a phellach, addysg i oedolion a’r sector ieuenctid. Mae’n cynnig cyfleoedd cyffrous i gyfranogwyr o Brydain astudio, gweithio, gwirfoddoli, dysgu a hyfforddi yn Ewrop.
Nod y rhaglen hon yw creu cysylltiadau agosach rhwng Ewrop a’i drigolion a’u galluogi i chwarae rhan lawn o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Mae’n rhoi cyfle i gymryd rhan mewn rhaglenni cyfnewid rhyngwladol a gweithgareddau cydweithredu, cyfrannu at ddatblygu naws am le o ran delfrydau Ewropeaidd ac annog proses o integreiddio o fewn Ewrop. Un enghraifft yw cefnogaeth y Rhaglen ar gyfer cynlluniau cyfeillio rhwng trefi.
Nod Rhaglen INTERREG EWROP yw gwella’r ffordd y gweithredir polisïau a rhaglenni datblygu rhanbarthol. Mae 4 thema i’r rhaglen: Ymchwil ac Arloesedd, Ysbryd Cystadleuol Busnesau Bach a Chanolig eu maint, Economi carbon isel, a’r Amgylchedd ac effeithlonrwydd adnoddau. Mae’r rhaglen ar agor i gyrff cyhoeddus a sefydliadau preifat dielw, ac mae canran y cyllid sydd ar gael ar raddfa 85%.
LIFE+ yw offeryn ariannol yr Undeb Ewropeaidd i gefnogi prosiectau ym maes yr amgylchedd, cadwraeth natur a’r hinsawdd ar draws Ewrop.
Cyllid Busnes
> Cynllun Benthyciad Canol Tref
Mae Cyngor Sir Powys wedi llwyddo i sicrhau cynllun benthyciad £1,250,000 gan Lywodraeth Cymru ar gyfer adfywio trefol. Prif nod y cynllun yw lleihau nifer y safleoedd gwag, segur a’r rhai nad ydynt yn cael eu defnyddio ddigon yng Nghanol y Dref.
> Grant Creu Lleoedd Trawsnewid Trefi 2022-25
Mae'r Grant Creu Lleoedd Trawsnewid Trefi yn darparu cyllid cyfalaf ar gyfer busnesau lleol, mentrau cymdeithasol, a chyrff cyhoeddus i alluogi rhaglen gefnogaeth eang a hyblyg ar gyfer ystod eang o brosiectau a all helpu i adfywio canol trefi ar draws canolbarth Cymru.
Gall darganfod ble i fynd i ganfod cyllid a dewis y math cywir fod yn anodd. Defnyddiwch ein Canfyddwr Cyllid i ganfod opsiynau cyllid sy'n berthnasol i'ch busnes.
Mae Cyllid Cymru yn cynnig buddsoddiadau twf masnachol i BBaCh yng Nghymru rhwng £1,000 a £3 filiwn. Rydym yn buddsoddi mewn busnesau newydd, busnesau ifanc a busnesau sefydledig.
Rhaglen sy’n seiliedig ar ymchwil ac arloesedd yw Horizon 2020 fydd yn dosbarthu cronfeydd ar gyfer ymchwil ar themâu penodol megis gwyddoniaeth ragorol, diwydiannau cystadleuol a chymdeithas well. Nod Horizon 2020 yw sicrhau fod Ewrop yn cynhyrchu gwyddoniaeth o’r radd flaenaf, yn cael gwared ar rwystrau i arloesedd ac yn ei wneud yn haws i’r sectorau cyhoeddus a phreifat gydweithio i gyflenwi arloesedd. Mae Horizon 2020 yn cynnig cyfleoedd pwysig i fusnesau ac ymchwilwyr y DU i gael hyd i gyllid, rhwydweithiau a phartneriaethau ym maes arloesedd. Mae Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru wedi sefydlu Uned Horizon 2020 i roi cyngor a chefnogaeth i sefydliadau o Gymru sy’n chwilio am y cyllid mwyaf priodol ym maes ymchwil a datblygiad sydd ar gael gan yr Undeb Ewropeaidd.
COSME yw rhaglen yr UE ar gyfer Ysbryd Cystadleuol rhwng Mentrau a Mentrau Bach a Chanolig eu maint (SMEs) sy’n rhedeg rhwng 2014 - 2020; y gyllideb a gynlluniwyd ar gyfer y rhaglen yw 2.3 biliwn Euro. Ymysg thema’r Rhaglen hon mae: Gwell Mynediad at Gyllid; Mynediad at Farchnadoedd a Chefnogi Entrepreneuriaid.
Mae Creative Europe yn cynorthwyo’r sectorau diwylliannol, creadigol a chlyweled potensial i deithio, i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd, ac i annog rhannu a datblygu sgiliau. Mae’n is-grŵp i MEDIA sy’n buddsoddi mewn ffilm, teledu, cyfryngau newydd a gemau.