
Tyfu ym Mhowys
Grow in Powys
Trawsnewid Trefi
#PrynuLleolPowys
gyda threfi diogel a chryf

Croesawu’r cyfle i ailwampio ac ail-greu ein mannau agored – ar gyfer canol trefi llewyrchus a chryf a fydd yn ei dro’n arwain at gymunedau hapus a chryf.
Mae argyfwng COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar fywydau ac iechyd nifer o ddinasyddion Powys, ond mae’r effeithiau economaidd hefyd wedi bod yn sylweddol. Cafodd y cyfnod clo effaith enbyd ar ganol ein trefi, gyda nifer o fusnesau wedi gorfod cau am gyfnod hir.
Erbyn hyn rhaid canolbwyntio ar wneud dir y cyhoedd yn ddiogel ac adennill hyder y cyhoedd i’w denu nôl i’r stryd fawr a sicrhau fod ein busnesau lleol a’n stryd fawr yn parhau’n hyfyw.
Diwygiwyd elfennau o ddyraniad cyllideb Trawsnewid Trefi 2020/21 i roi cyfle i gynghorau tref, gyda busnesau, i wneud cais am nawdd i helpu gyda’r newidiadau o ran cadw pellter cymdeithasol yng nghanol trefi Powys a Cheredigion oherwydd pandemig COVID-19.
Bydd y gwaith hwn yn parhau gyda’n cydweithwyr Priffyrdd yn ystod 2021/2022.
Mae cyllid Cyngor Sir Powys a sicrhawyd wrth Lywodraeth Cymru ar gyfer ardal Canolbarth Cymru’n canolbwyntio ar becyn ariannu ‘creu lleoedd’ i helpu canol trefi Powys a Cheredigion ail-godi’n well.
Mae Grant Creu Lleoedd Trawsnewid Trefi’n cynnig cefnogaeth ar gyfer amrywiaeth o brosiectau, o ddatblygiadau seilwaith gwyrdd i welliannau masnachol a phreswyl mewnol ac allanol i berchnogion busnesau.
