Tyfu ym Mhowys
Grow in Powys
Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog: Rhaglen Grym am Newid
Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog: Rhaglen Grym am Newid
Mae grantiau am hyd at £20,000 ar gael ar gyfer prosiectau sy’n cefnogi cymunedau’r Lluoedd Arfog i fod yn llai ynysig ac i gymryd mwy o ran yn eu hardal leol. Bydd y ddau gylch ariannu eleni yn cefnogi cymunedau lleol y Lluoedd Arfog wrth iddynt fynd i’r afael â’r anghenion sydd wedi codi oherwydd Covid-19.
Cymhwyster
I fod yn gymwys i wneud cais, mae’n rhaid i’r sefydliad sy’n gwneud cais fod yn:
-
Elusen gofrestredig neu Gwmni Buddiannau Cymunedol sefydledig gyda phrofiad sylweddol diweddar o gefnogi cymunedau'r Lluoedd Arfog
-
Uned neu ganolfan lluoedd arfog
-
Awdurdod Lleol
-
Ysgol
Bydd yr Ymddiriedolaeth yn ariannu ystod eang o brosiectau o dan y rhaglen hon. Fodd bynnag, rhaid i ymgeiswyr allu dangos bod eu prosiect yn gweddu i un o'r ddwy brif thema ganlynol.
-
Grymuso cymunedau'r Lluoedd Arfog i gymryd mwy o ran yn eu hardal leol.
-
Rhoi cyfleoedd i aelodau ynysig yn y gymuned Lluoedd Arfog i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n gwella lles cyffredinol.
Bydd dau gylch ariannu: -
Dyddiad cau cyntaf – canol dydd 11 Medi 2020.
Ail ddyddiad cau – canol dydd 30 Tachwedd 2020.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn y fan yma: http://bitly.ws/9juq