top of page
Anchor 1

Tyfu ym Mhowys

       Grow in Powys

Cymunedau am Waith+

A ydych yn 16+ mlwydd oed ac eisiau gwella eich rhagolygon am swydd?

Mae Tîm Adfywio Cyngor Sir Powys yn cyflwyno prosiect  “Cymunedau dros Waith+” gyda’r nod o gael pobl Powys yn ôl i mewn i waith a gwella eu rhagolygon am gyflogaeth. Mae mentoriaid yn gweithio ym mhob cwr o Bowys gan ddarparu cefnogaeth 1-1 i unrhyw un dros 16 mlwydd oed.

Gallant ddarparu cefnogaeth gyda:  

  • Sgiliau cyflogadwyedd, gan gynnwys help gydag ysgrifennu eich CV, ceisiadau am swyddi a pharatoi ar gyfer cyfweliadau

  • Meithrin hyder

  • Dod o hyd i leoliadau gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli

  • ​Dod o hyd i gyfleoedd gwaith addas

  • Cyllid ar gyfer hyfforddiant ar gyfer cymwysterau penodol fel y Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS), Hylendid Bwyd, Awdurdod y Diwydiant Diogelwch (SIA)

Pwy allwn ni ei gefnogi?  Unrhyw un sy'n:

  • Byw ym Mhowys dros 16 oed

  • Unigolion sydd wedi'u cofrestru'n ddi-waith neu'n economaidd anweithgar

  • Mewn "tlodi mewn gwaith" (mewn swydd(i) sgiliau isel ar gyflog isel a/neu oriau cyfyngedig o waith)

Sut y gallwch chi gysylltu?

Mentor Gogledd Powys - Matt Jones = 07976 864528

Mentor Canol a De Powys - Carol Judd = 07976 864529

E-bost: jobsupport@powys.gov.uk

Facebook: Communities for Work Powys

Ariennir y rhaglen gan Lywodraeth Cymru.

Communities for Work poster advretising the project
bottom of page