top of page

Tyfu ym Mhowys

       Grow in Powys

Cefnogaeth ar gyfer Twristiaeth ym Mhowys

Rôl ddeuol sydd gan wasanaeth twristiaeth Cyngor Sir Powys o ran cyflenwi blaenoriaethau’r cyngor o safbwynt marchnata i ymwelwyr er mwyn targedu grwpiau ymwelwyr allweddol, yn ogystal â chefnogi datblygiad y sector twristiaeth o fewn y sir, yn enwedig mewn perthynas â gweithio i gefnogi busnesau a chymunedau sy’n cynnig gwasanaethau i ymwelwyr.

Mae blaenoriaethau allweddol y gwasanaeth twristiaeth fel a ganlyn:

 

CYM Mid Wales My Way

1. Marchnata – dulliau digidol a thraddodiadol, gan gynnwys gwefan Canolbarth Cymru fel y Mynnaf a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol, Llawlyfr Ymwelwyr â Chanolbarth Cymru, digwyddiadau ac arddangosfeydd i godi ymwybyddiaeth o’r Sir fel un o brif gyrchfannau i ymwelwyr yng Nghymru.

2. Rheoli Cyrchfannau - cefnogi’r 4 ardal ym Mhowys - Bannau Brycheiniog, Mynyddoedd Cambrian, Biosffer Dyfi, Canol a Gogledd Powys. Help ar gyfer Twristiaeth: http://www.tourismpowys.com

3. Digwyddiadau Powys - dull deuol o weithio sy’n golygu hyrwyddo amrediad eang o ddigwyddiadau unigryw sy’n cael eu cynnal ym Mhowys, a gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i ddenu digwyddiadau mawr i ddefnyddio Powys fel lleoliad. 

Ymchwil i Dwristiaeth

Mae gwasanaeth twristiaeth Cyngor Sir Powys yn cynnal amrywiaeth o ymchwil i dueddiadau twristiaeth, boddhad ymwelwyr, nifer y gwelyau sydd ar gael ac effaith twristiaeth ar economi Powys (STEAM).

 

Rydym yn rhan o bartneriaeth ymchwil Croeso Cymru ac yn casglu data mewn cysylltiad â sefydliadau ac awdurdodau lleol eraill yng Nghymru.

Mae ymchwil ynglŷn â thwristiaeth yng Nghymru i’w gweld ar - https://businesswales.gov.wales/cy/zones/tourism/gweithio-gyda-croeso-cymru

Gallwch weld Partneriaeth ar gyfer Twf, Strategaeth ar gyfer Twristiaeth yng Nghymru ar - https://llyw.cymru/twristiaeth-digwyddiadau-mawr

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni trwy twristiaeth@powys.gov.uk

Rheoli Cyrchfannau

Dyluniwyd Rheoli Cyrchfannau’n i wneud i bob cyrchfan weithio’n effeithiol o bersbectif ymwelwyr. I wneud hyn yn effeithiol mae angen i amrywiaeth o fudd-ddeiliaid sy’n darparu profiadau ymarferol i fod yn rhan o’r gwaith. Mae gweithio mewn partneriaeth yn hanfodol i sicrhau ansawdd cyffredinol y gwasanaethau a’r cyfleusterau ac mae hyn yn cyd-fynd ag anghenion a disgwyliadau ymwelwyr. Mae Rheoli Cyrchfannau’n cadw’r ymwelwr, ei anghenion ac ansawdd y profiad a gaiff wrth wraidd y cyfan. 

 

Mae gwasanaeth twristiaeth Cyngor Sir Powys yn ymroddedig i gefnogi dull Rheoli Cyrchfannau, yn unol â’r hyn y mae Croeso Cymru’n ei gymeradwyo yn Strategaeth Twristiaeth ‘Partneriaeth ar gyfer Twf’. Mae’r gwasanaeth twristiaeth yn gweithio mewn partneriaeth â Croeso Cymru, sefydliadau sy’n bartneriaid, busnesau a chlystyrau twristiaeth, a grwpiau cymunedol y 4 cyrchfan canlynol ym Mhowys – 

· Bannau Brycheiniog
· Mynyddoedd Cambria
· Biosffêr Dyfi
· Rhwydwaith Cyrchfannau Gogledd a Chanol Powys 

I gael rhagor o wybodaeth am Reoli Cyrchfannau yng Nghymru, ewch i -  https://businesswales.gov.wales/dmwales/cy
 

Mid Wales My Way

Mae "Fy Nghanolbarth Cymru i" yn dathlu hanes a diwylliant ein hardal gan roi naws o’r lle a’r cymeriadau sy’n byw yma.

Mae ein treftadaeth a’n hamgylchedd naturiol wedi para’n dragywydd, ond eto mae’n newid yn gyson. Ynghyd â’r bobl, y dirwedd, y profiadau a’r blasau, mae Canolbarth Cymru’n atyniad unigryw a chyffrous a gobeithio y bydd ymwelwyr yn gallu cysylltu â hynny a rhannu eu profiadau a’u straeon eu hunain.


Ymwelwch â ni ar: Midwalesmyway.com

Neu Dilyn, Tweet, gwylio ni ar:

  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
  • YouTube
CYM Research
CYM Destination Management
bottom of page