Tyfu Ym Mhowys
Grow in Powys

Tyfu Canolbarth Cymru

Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru
Mae Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru yn bartneriaeth ranbarthol gryf o gyrff cynrychioliadol o'r sector preifat, cyhoeddus a gwirfoddol yng Nghanolbarth Cymru, ac fe'i sefydlwyd ar ddechrau 2015.
Daw aelodaeth sylweddol o'r sector preifat, gan gynnwys partneriaid sy'n cynrychioli gweithgynhyrchu, busnesau amaethyddol a thwristiaeth, ynghyd ag addysg bellach ac uwch, y sector gwirfoddol, Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr llywodraeth leol.
Mae'r Bartneriaeth yn ceisio:
-
Sicrhau mwy o ganlyniadau economaidd a chanlyniadau economaidd gwell ar draws yr ardal drwy weithio mewn partneriaeth.
-
Arwain ymagwedd gydweithredol yr ardal at ddatblygu economaidd.
-
Cytuno ar flaenoriaethau ar gyfer swyddi a thwf economaidd yn yr ardal.
-
Darparu llais cryf ar gyfer yr economi ranbarthol sydd bron yn gwbl wledig yng Nghanolbarth Cymru.
Grant Creu Lleoedd Trawsnewid Trefi 2022-25
Mae'r rhaglen yn bartneriaeth rhwng Cyngor Sir Powys, Cyngor Sir Ceredigion, a Llywodraeth Cymru, a'r nod yw ailddychmygu ac ail-greu adeiladau a mannau agored i greu canol trefi cryf sy'n ffynnu.
Mae'r Grant Creu Lleoedd Trawsnewid Trefi yn darparu cyllid cyfalaf ar gyfer busnesau lleol, mentrau cymdeithasol, a chyrff cyhoeddus i alluogi rhaglen gefnogaeth eang a hyblyg ar gyfer ystod eang o brosiectau a all helpu i adfywio canol trefi ar draws canolbarth Cymru.