Tyfu ym Mhowys
Grow in Powys
Prosiect Parc y Llyn, Llandrindod
Mae’r gwaith i wella golwg ardal Parc y Llyn yn Llandrindod yn mynd rhagddo’n dda yn ôl y Cyngor Sir.
Mae Cyngor Sir Powys wrthi’n gwneud gwaith i ardal Parc y Llyn, Llandrindod, diolch i grant o £126,400 gan yr Undeb Ewropeaidd ddaeth trwy Gronfa Ddatblygu Wledig Llywodraeth Cymru. Bydd yr arian hefyd yn cael ei ddefnyddio i gefnogi cyfleoedd busnes yn yr ardal.
Fel rhan o’r gwaith mae’r llwybr ar ochr orllewinol y llyn, sy’n rhedeg heibio i Fwyty Glan-llyn, wedi cael ei wella a’i droi’n droedffordd aml bwrpas. Bydd yn ymuno â Llwybr Beicio Cenedlaethol 825 o’r enw Cylch Maesyfed.
Hefyd mae gwaith cyweirio a thacluso’n mynd rhagddo ar y llwybrau sy’n rhedeg trwy’r coed cyfagos yn y Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae’r cyngor yn gwneud y llwybrau’n fwy diogel a haws cyrraedd gan wella’r grisiau, y wynebau a’r canllawiau. Mae disgwyl y bydd y gwaith wedi’i gwblhau erbyn diwedd mis Ionawr.