top of page

Tyfu ym Mhowys

       Grow in Powys

Prosiectau Powys

Adfywio - Cynllun Gweithredu

Mae’r Tîm Adfywio ynghyd â’n partneriaid wrthi’n hyrwyddo ac yn cyflenwi prosiectau adfywio fydd yn gwella ansawdd bywyd a dengarwch Powys, i’w gwneud yn sir fywiog lle bydd pobl am weithio, byw a threulio amser.

 

Mae ein prif nodau fel a ganlyn:

· Cefnogi cymunedau lleol i gydweithio i gael hyd i atebion lleol ar gyfer problemau lleol.

· Annog twf ac amrywiaeth o fewn Busnesau Lleol.

· Hyrwyddo’r ardal er mwyn denu buddsoddiad newydd a chynaliadwy.

· Gwneud y defnydd gorau o gyfleoedd ariannu i gynorthwyo Powys i ddatblygu

· Cynorthwyo gydag adfywio ein trefi a’n cymunedau.

· Cefnogi mentrau i sicrhau swyddi lleol ar gyfer pobl leol.

Mae’r Tîm Adfywio’n gweithio’n agos gydag amrediad eang o bartneriaid, o fewn y Cyngor ac yn allanol. Ein bwriad yw bod yn hygyrch, ac yn dîm cyfeillgar, a byddwn yn croesawu cyswllt gan unrhyw grŵp gwirfoddol, menter gymdeithasol neu unigolyn o’r gymuned sydd â syniadau ynghylch sut y gellir gwella ansawdd bywyd trigolion Powys. Os nad ydym yn gallu cynnig y gefnogaeth briodol, byddwn yn ceisio eich cyfeirio at gorff neu sefydliad mwy addas.

Lleolir y Tîm Adfywio yn adeilad Y Gwalia, Llandrindod. Er hynny, byddwn yn gallu cwrdd â chi mewn lleoliad ac ar amser sydd efallai’n fwy cyfleus i chi.

bottom of page