Tyfu ym Mhowys
Grow in Powys
Dweud Eich Dweud
PROSIECT CYFFROUS YNG NGHANOL Y DRENEWYDD
Mae Cyngor Tref Y Drenewydd a Chyngor Sir Powys wedi sicrhau nawdd sylweddol gan Lywodraeth Cymru i wneud prosiect sylweddol a fyddai’n gweld amryw o fesurau cyffrous i wella canol Y Drenewydd a gwneud y dref yn wyrddach.
Bwriad y nawdd yw “gwyrddu” canol trefi trwy osod seilwaith trefol gwyrdd (plannu ar y stryd, gerddi glaw a gwaith draenio cynaliadwy ac ati) sy’n ategu adfywio economaidd a datblygu cynaliadwy ehangach. Dyma gyfle cyffrous i newid gwedd a naws canol y dref ac ar yr un pryd helpu’r dref gyda’i addewidion i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.
Yn y lle cyntaf, bydd y prosiect yn gweithio mewn 4 ardal yn y dref.
- Cyffordd y Lôn Gefn a’r Stryd Fawr (tu allan i siop Iceland)
- Ar hyd y Stryd Fawr lle ar hyn o bryd mae yna balmant ar lethr – codi’r ardal i gerddwyr, creu lle mwy gwastad ar gyfer marchnadoedd stryd, ardal gaffi a digwyddiadau dros dro. Hefyd bydd yna erddi glaw gyda draeniad sianelog yn helpu i wella mesurau atal llifogydd.
- Sgwâr Hafren sydd ar hyn o bryd yn lawr caled – bydd yna waith draenio ar gyfer planhigfa fawr a gosod seddi newydd gan greu cyfle i orffwys a chymdeithasu mewn man gwyrdd braf.
- Maes parcio Stryd Nwy, gan greu estyniad i ardal yr afon.
Mae Cyngor Sir Powys mewn partneriaeth â Chyngor Tref Y Drenewydd a Llanllwchaearn wedi llunio rhai syniadau (gweler isod) ar gyfer canol tref Y Drenewydd ac yn ymgynghori ar 3 o’r ardaloedd hyn er mwyn cael barn trigolion Y Drenewydd a pherchnogion busnesau yng nghanol y dref.
Dyma’ch cyfle chi i ddylanwadu’n uniongyrchol ar y cynlluniau hyn ac rydym yn awyddus i glywed eich barn a’ch awgrymiadau.
I lenwi’r arolwg, cliciwch yma: https://www.surveymonkey.co.uk/r/NGZZXDV
Neu llenwch y ffurflen hon Holiadur Tyfu’r Drenewydd
Ac e-bostio’r ffurflen i regeneration@powys.gov.uk.